|
||
|
|
||
|
||
|
Positive Action / Gweithredu Cadarnhaol |
||
|
Gweithredu CadarnhaolNEGES DWYIEITHOG / NEGES DWYIEITHOG Helo {FIRST_NAME} Efallai eich bod chi'n cofio neges a anfonais yn gynharach yr wythnos hon ynglŷn â chynnydd yn nifer y cerbydau sy'n cael eu torri i mewn yn ardaloedd Grangetown/Butetown. Rwy'n falch o allu adrodd bod Tîm Plismona Cymdogaeth Bae Caerdydd wedi arestio a chyhuddo dyn heddiw am sawl digwyddiad yn yr ardal. Cofiwch, os gwelwch chi unrhyw un yn ymddwyn yn amheus o amgylch cerbyd ac yn credu eu bod nhw'n ceisio torri i mewn iddo, ffoniwch 999 ar unwaith a rhowch ddisgrifiad o'r unigolyn i'n hystafell reoli. Gyrwyr, gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn tynnu unrhyw beth o werth o'ch cerbyd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio a gwnewch yn siŵr eich bod yn cloi'r cerbyd yn ddiogel.
Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||
Reply to this message | ||
|
|







